Croeso i Amlwch
Croeso cynnes i chi i wefan swyddogol Cyngor Tref Amlwch, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y safle yn llawn gwybodaeth ac o fudd.
Amdanom ni
Croeso cynnes i chi i wefan swyddogol Cyngor Tref Amlwch, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y safle yn llawn gwybodaeth ac o fudd. Y Cyngor Tref sydd berchen y wefan ac fe fydd yn cael ei gynnal gan y Cyngor Tref ar ran trigolion Amlwch.
Mae’r safle yn cynnwys gwybodaeth am Cyngor y Dref, adnoddau lleol a ddolennau perthnasol. Os ydych angen trafod, unrhyw beth yn ymwneud a’r wefan, yna cysylltwch a’r swyddfa
Mae trigolion Amlwch wedi cael eu cynrychioli gan Gyngor Tref Amlwch ers dros gan mlynedd. Mae’r cyngor yn un o 735 o Gynghorau Cymuned trwy Gymru. Mae pumtheg aelod sydd yn dod o’r ardal leol unai wedi eu hethol neu eu cyf-ethol ynghyd a chlerc.
Mae’r Cyngor llawn yn cyfarfod ar y pedwerydd Nos Fawrth o bob mis am 7 o’r gloch yn Siambr y Cyngor.
Mae’r cyfarfodydd yn agored i bawb, er mae’n rhaid pwysleisio nad yw’r cyhoedd yn cael cyfrannu i drafodaethau yn ystod y cyfarfodydd heb wneud trefniadau o flaen llaw.Mae rhyddid i unrhyw unigolyn neu fudiad gysylltu i drefnu.
Ceir etholiad bob pedair mlynedd, ond fe ellir cael etholiad yn y cyfamser os daw sedd wag a mwy nag un person wedi dangos diddordeb i fod yn aelod. Mae hawl gan y Cyngor i gyf-ethol os nad oes gotyn am etholiad a’r bruses cywir wedi ei ddilyn. Hysbysebir sedd wag drwy CSYM.
Yn wahanol i Gynghorwyr Sirol, dim ond y Cadeirydd sydd yn derbyn lwfans, nid yw Cynghorwyr Tref yn derbyn unrhyw daliad ynghlwm a’i dyletswyddau fel Cynghorwyr Tref, felly mae’r holl waith yn wirfoddol.Derbynnir swm o arian trwy’r Cyngor Sir yn flynyddol sef yr ‘Archeb’ tuag at gostau gweinyddu a chyflawni’n gofynion.
Mae sawl dyletswydd amrywiol gan y Cyngor Tref sydd yn cynnwys: darparu safleoedd chwarae a’u cynnal, torri glaswellt yn y parciau, trefnu’r gerddi, trefnu cystadleuaeth ‘Gardd Orau’, Goleuadau Nadolig, Mynwent y dref, mewn-bwn ynglyn a cheisiadau cynllunio, arwyddion lleol ynghyd a mwnbwn ynghlwm a phenderfyniadau’r Awdurdod Lleol.
Y Cyngor Sir sydd a chyfrifoldeb am oleuadau stryd, llwybrau cyhoeddus. Mae rôl y clerc yn hynod bwysig i roi arweiniad mewn rhai materion a chodi ymwybyddiaeth mewn materion lleol, rhanbarthol ac ar lefel uwch.
Fe fydd y Cyngor yn ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ac aelodau ar y gwahanol is-bwyllgorau a phwyllgorau allanol yn y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cael ei gynnal ym mis Mai. Mae rhestr gyflawn o’r rhain ar dudalen y Cynghorwyr. Mae’r Cyngor yn ethol aelodau ar gyfer cyrff gwahanol megis – Canolfan Gynghori/Llywodraethwyr yr Ysgol Gynradd/Twristiaeth a.y.y.b . Mae’r Cyngor yn cyflogi staff a chontractwyr i gario’r gwaith maentumio megis torri glaswellt – parciau’r dref a’r fynwent.